Mae cwmni BP wedi gwario dros $3 biliwn ar lanhau clwt olew Gwlff Mecsico hyd yma, meddai’r cwmni heddiw.

Dywedodd y cwmni bod y gwaith o lanhau’r olew wedi ei atal gan y stormydd yr wythnos diwethaf wrth i Gorwynt Alex deithio drwy’r Gwlff.

Mae’r cwmni bellach wedi casglu tua 585,400 baril o olew o’r bibell sy’n gollwng. Ond mae’n annhebygol y bydden nhw’n gallu atal yr olew rhag dianc tan eu bod nhw’n gorffen drilio ffynnon olew newydd fis nesaf.

Yn ogystal â chost glanhau’r olew mae’r cwmni wedi gosod $20 biliwn o’r neilltu ar gyfer digolledu pobol sydd wedi eu heffeithio gan y clwt olew.

Er hynny cynyddodd pris cyfranddaliad BP 2% heddiw ar ôl cwymp mawr yr wythnos diwethaf.

Mae’r cwmni wedi colli mwy nag 50% o’i werth ar y farchnad stoc ers i blatfform olew Deepwater Horizon ffrwydro ar 20 Ebrill, gan ladd 11 o weithwyr ac achosi’r trychineb amgylcheddol.