Mae dyn wedi colli ei fraich wrth iddo ddathlu Diwrnod Annibyniaeth yn Efrog Newydd ddoe.

Ffrwydrodd tân gwyllt o bibell metal a rhwygo braich Eric Smith oddi ar ei ysgwydd.

Roedd y dyn 36 oed yn cynnal parti yn ei gartref yn Long Island, Efrog Newydd. Aethpwyd ag ef i’r ysbyty gyda’i fraich wedi ei bacio mewn iâ.

Dywedodd ei gyfeillion ei fod o wedi pwyso dros bibell metal oedd yn lansio’r tân gwyllt ond iddo fethu symud allan o’r ffordd cyn iddo danio.

Methodd llawfeddygon ac ail gysylltu’r fraich ac mae Eric Smith dal yn yr ysbyty.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n ystyried cyhuddo Eric Smith o feddu ar dan gwyllt wedi ei wneud yn anghyfreithlon.