Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau y bydd eu rheolwr Paulo Sousa yn gadael ar ôl tymor yn unig wrth y llyw.
Fe ddaeth y cyhoeddiad yn gynnar y bore yma ar wefan yr Elyrch yn dilyn cyfarfod rhwng y cadeirydd, Huw Jenkins a Paulo Sousa.
Fe fydd Sousa’n gadael i ymuno â Chaerlŷr, sy’n debygol o gystadlu yn erbyn Abertawe am ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.
Mae Caerlŷr wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cychwyn trafodaethau gyda Sousa i olynu Nigel Pearson fel rheolwr y clwb.
Yn ôl Abertawe, roedd y penderfyniad wedi dod “trwy gytundeb ar y ddwy ochr” ond roedd sïon wedi bod ers rhai dyddiau y byddai Sousa yn gadael.
“Roedd y ddau ochr wedi cytuno bod y sïon ynglŷn â dyfodol y rheolwr yn niweidio’r clwb, ac o ganlyniad, fe gafodd Paulo yr hawl i siarad gyda Chaerlŷr ynglŷn â’r swydd wag yn y Stadiwm Walkers,” meddai Abertawe mewn datganiad.
Yr ail dro
Dyma’r ail dro i Abertawe golli eu rheolwr ar ôl dim ond un tymor llwyddiannus. Yr haf diwetha’ fe adawodd Roberto Martinez am Wigan.
Roedd Sousa wedi mynd a’r Elyrch o fewn trwch blewyn i’r gemau ail gyfle.
Un o’r ffefrynnau i gymryd ei le yw cyn-chwaraewr Uruguay a Chelsea, Gus Poyet, sy’n rheoli Brighton and Hove Albion ar hyn o bryd.
Mae rheolwr Hibernian, John Hughes, hefyd wedi ei gysylltu gyda’r swydd wag.
Ond fe allai Abertawe droi at Gymro i gymryd yr awenau. Mae Gary Speed, hyfforddwr cynorthwyol Sheffield Utd a chyn rheolwr Coventry, Chris Coleman ymysg y rhai allai olynu Paulo Sousa yn Stadiwm Liberty.