Mae miloedd o bobol wedi ffoi am y traethau a’r parciau y penwythnos yma wrth i Gymru a Lloegr fwynhau tywydd poeth.

Erbyn canol dydd roedd y tymheredd wedi cyrraedd 26C yng ngorllewin Llundain ac fe allai gyrraedd 29C yn ystod y dydd.

Mae pethau ychydig yn oerach yng Nghymru a gorllewin Lloegr ond mae’r haul yn dal i dywynnu. Mae Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi bod yn llai lwcus, gyda chawodydd glaw a mellt a tharanau.

Y disgwyl yw mai yfory fydd diwrnod cynhesaf yr haf hyd yma wrth i’r tymheredd gyrraedd 30C mewn rhai mannau.

Mae’r bwcis wedi cynnig 3/1 y bydd y tymheredd yn codi’n uwch na’r tymheredd uchaf i gael ei nodi yn y Deyrnas Unedig erioed, sef 38.5C yn Brogdale, Caint yn 2003.

Mae William Hill yn cynnig 5/1 y bydd y tymheredd yn codi uwchlaw 100F (37.8C) eleni.

“Mae yna haf crasboeth o’n blaenau ni a ni fydd y 5/1 sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd yn parhau’n hir iawn,” meddai’r llefarydd Rupert Adams.

Y diwrnod cynhesaf hyd yma oedd 24 Mai. Fe gyrhaeddodd y tymheredd 28.8C ym Maes Awyr Heathrow.

Mwy o luniau