Mae Warren Gatland wedi clodfori Cymru yn dilyn eu colled 29-10 yn erbyn Seland Newydd yn Hamilton.

Yn wahanol i’r chwalfa 42-9 yn Dunedin, roedd Cymru yn y gêm drwy gydol yr 80 munud ac fe sgorion nhw eu cais gyntaf yn erbyn Seland Newydd ers 2006.

“Y peth braf am y perfformiad heddiw ydi bod y Crysau Duon yn tueddu i gryfhau o gêm i gêm,” meddai Warren Gatland.

“Fe allai Cymru fod wedi bod yn meddwl am ddringo ar yr awyren yfory a mynd ar wyliau am chwe wythnos ond wnaethon nhw ddim.

“Roeddwn i’n falch iawn o hynny. Fe wnaethon nhw ddangos dipyn o gymeriad allan ar y cae ac roedd ganddyn nhw falchder yn y crys coch.”

Ond roedd o’n siomedig gyda chais munud olaf Aaron Cruden, gan ddweud y byddai un cais yr un yn adlewyrchiad tecach o’r gêm.

“Roedden ni’n diawlio’r cais olaf yna,” meddai. “Roedd yna ambell i gerdyn melyn yn ein herbyn ni, a sawl cic gosb, ond rydw i’n credu ei fod o’n berfformiad gwell na’r wythnos diwethaf.

“Fe wnaethon ni weithio’n galed ar rai agweddau o’r gêm er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n gryfach yn amddiffynnol. Pe bai’r gêm wedi gorffen gydag un cais yr un fe fydden ni’n hapusach.

“Roedd o’n saith pwynt dwl iawn ar ddiwedd y gêm.”

‘Bwlch’

Roedd Warren Gatland hefyd yn cydnabod bod angen i Gymru wella ar eu disgyblaeth ar ôl i Daniel Carter gosbi Cymru tro ar ôl tro gyda chiciau cosb.

Yn ogystal â hynny fe gafodd Lee Byrne a Gavin Thomas gardiau melyn, y cyntaf toc cyn diwedd yr hanner cyntaf, a’r ail naw munud cyn diwedd y gêm.

“Roedd yna ddau neu dri cic gosb digon dwl ac mae angen i ni roi’r gorau i hynny,” meddai Warren Gatland.

“Mae Lee Byrne wedi ymddiheuro [am ei gerdyn melyn]. Mae’n un o’r pethau yna sy’n digwydd mewn gêm. Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod o wedi mynd ati’n fwriadol ond mae’n rhaid iddo fod yn fwy cyfrifol tro nesaf.”

Dywedodd Warren Gatland fod yna fwlch amlwg rhwng y ddau dîm ond roedd o’n credu fod y daith wedi gwella tîm Cymru.

“Mae yna fwlch, mae’n rhaid cydnabod hynny. Ond rydan ni wedi dysgu lot yn y pythefnos diwethaf. Mae angen parhau i chwarae’r timau gorau,” meddai.

‘Rhwystredig’

Dywedodd capten y Crysau Duon, Richie McCaw, ei fod o’n teimlo yn rhwystredig yn ystod y gêm.

“Bob tro’r oedden ni’n llwyddo i gyrraedd eu pen nhw o’r cae roedden ni’n cael cic gosb,” meddai. “Fe fyddai wedi bod yn braf rhoi dipyn o bwysau arnyn nhw a chipio ambell gais.

“Roedden ni’n gadael iddyn nhw gipio’r bel ac roedd hynny’n siomedig. Ond er eu bod nhw wedi sgorio cais ar y diwedd roeddwn i’n meddwl ein bod ni wedi amddiffyn yn reit dda.”