Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud eu bod nhw’n gobeithio tynhau’r rheolau ar gynnwys papurau newydd sy’n cael eu dosbarthu gan gynghorau am ddim.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau Eric Pickles na ddylai papurau newydd annibynnol wynebu cystadleuaeth gan “bropaganda” cynghorau lleol.
Mae papurau newydd sy’n cael eu hariannu gan gynghorau wedi dod yn fwy cyffredin dros y blynyddoedd diwethaf, tra bod papurau annibynnol wedi gweld cwymp mewn gwerthiant a hysbysebion.
Yn gynharach eleni wynebodd Cyngor Sir Gaerfyrddin feirniadaeth gan AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Rhodri Glyn Thomas, am hysbysebu yn y papur eu hunain yn hytrach na’r Carmathen Journal.
Tanseilio
“Mae’n gwastraffu arian y trethdalwr ac ychwanegu at y post sothach sy’n dod drwy’r drws, ac mae o wedi tanseilio’r wasg annibynnol,” meddai Eric Pickles.
“Dylai cynghorau dreulio llai o amser ag arian ar bapurau newydd sy’n mynd yn syth i’r bin a chanolbwyntio ar wasanaethau rheng flaen fel casglu biniau’n fwy aml.
“Yn oes y rhyngrwyd mae papurau newydd yn disgwyl cael llai o hysbysebion wrth i fwy a mwy o wybodaeth ymddangos ar y we.
“Ond ni ddylai’r wasg orfod wynebu cystadleuaeth gan bropaganda gan y wladwriaeth.”