Mae ymchwilwyr yn ne Kyrgyzstan wedi dechrau datgladdu cyrff y rhai gafodd eu lladd yn ystod y brwydro ethnig yno.

Cafodd cannoedd o bobol eu lladd a bu’n rhaid i gannoedd o filoedd o bobol ffoi o ganlyniad i bum diwrnod o drais ethnig yn y wlad.

Ymosododd tyrfaoedd o bobol Kyrgyz ar dai pobol Uzbek, yn dilyn gwrthryfel gwaedlyd ym mis Ebrill i gael gwared ar yr Arlywydd Kurmanbek Bakiyev.

Mae’r llywodraeth wedi cyhuddo dilynwyr Kurmanbek Bakiyev o gynllunio’r trais er mwyn atal refferendwm ar gyfansoddiad y wlad yfory.

Mae’r bleidlais yn cael ei weld fel cam pwysig tuag at wlad fwy democrataidd gan lywodraeth newydd y wlad.

Mae’r cyn arlywydd Kurmanbek Bakiyev wedi ffoi o’r wlad ac mae o’n gwadu fod ganddo unrhyw beth i’w wneud gyda’r ymosodiadau. Ond dywedodd heddlu Kyrgyzstan eu bod nhw wedi arestio ei nai a’i gyhuddo o drefnu’r ymosodiadau.

Roedd nifer o’r rheini gafodd eu lladd yn ystod y trais wedi eu claddu ar frys, fel sy’n draddodiadol ymysg Mwslimiaid.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Kyrgyzstan bod rhaid datgloddio’r cyrff er mwyn gallu ymchwilio’n drylwyr i beth ddigwyddodd.