Mae ail ddathliad cenedlaethol Diwrnod y Lluoedd Arfog wedi ei gynnal yng Nghaerdydd, heddiw.

Daeth miloedd o bobol o bob cwr o Brydain i wylio’r milwyr yn gorymdeithio drwy’r strydoedd fel rhan o ddathliad blynyddol y Lluoedd Arfog Prydeinig.

Cafodd y diwrnod ei greu’r flwyddyn ddiwethaf yn dilyn beirniadaeth nad oedd Prydain yn gwneud digon i gydnabod dewrder ac aberth milwyr y Lluoedd Arfog.

Roedd Tywysog Cymru, Duges Cernyw, Pennaeth y Lluoedd Arfog Syr Jock Stirrup (dde), a’r Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox yng Nghaerdydd fel rhan o’r dathliadau.

Roedd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn un pryd yng Nghaeredin a Manceinion.

Daw’r dathliadau wrth i nifer y meirw yn Afghanistan gyrraedd 307. Fe fu farw 18 o’r rheini yn ystod y mis diwethaf.

Mae 10,000 o filwyr Prydeinig yn brwydro yn y wlad. Dechreuodd y rhyfel ym mis Hydref 2001.

“Rydw i’n croesawu pawb sy’n cymryd rhan yn Niwrnod y Lluoedd Arfog y flwyddyn hon, gan ddathlu ein milwyr ni nawr ac yn y gorffennol,” meddai’r Frenhines mewn datganiad.

“Mae dynion a merched ein Lluoedd Arfog yn esiampl ragorol o ddewrder a phroffesiynoldeb. Maen nhw’n gweithio dan yr amgylchiadau mwyaf anodd a pheryglus, adref a dramor.”

Mae fflagiau arbennig er mwyn dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog wedi eu codi uwchben adeiladau’r Llywodraeth a chynghorau lleol ledled Prydain, gan gynnwys 10 Stryd Downing.

Dywedodd prif weinidog Cymru, Carwyn Jones fod gan Gymru “hanes a chysylltiad â’r Lluoedd Arfog i ymfalchïo ynddo”.

“Mae’n fraint cael bod yn rhan o ddathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog a chydnabod y dynion a’r menywod balch sy’n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl o bob cwr o Gymru yn dangos eu bod yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi popeth y mae’r Lluoedd yn ei wneud i’n cadw ni’n ddiogel.”