Mae Gogledd a De Korea wedi nodi 60 mlynedd ers dechrau Rhyfel Korea.

Protestiodd degau o filoedd o bobol Gogledd Korea yn eu prifddinas Pyongyang, a datgelu poster anferth yn dangos dyn yn cicio Americanwr gyda’r neges ‘Byddin America, allan a nhw’ arno.

Yn ôl asiantaeth newyddion swyddogol Gogledd Korea, roedd 120,000 o bobol wedi gorymdeithio drwy strydoedd Pyongyang yn condemnio De Korea am ochri gyda’r Unol Daleithiau.

“Er lles y wlad a’i phobol fe fydd ein byddin ni’n parhau i gryfhau ei harfau niwclear ataliol,” meddai Kim Ki Nam, ysgrifennydd Plaid Gweithwyr Gogledd Korea.

Nododd De Korea’r diwrnod gan alw ar Ogledd Korea i gydnabod mai nhw oedd yn gyfrifol am suddo llong ryfel De Korea misoedd ynghynt.

Mae tensiynau rhwng y ddwy wlad yn uchel ar ôl suddo’r llong Cheonan ym mis Mawrth. Fe fuodd 46 o forwyr farw ac mae De Korea wedi beio Pyongyang am yr ymosodiad.

Dechreuodd rhyfel Korea yn oriau cynnau 25 Mehefin, 1950, gydag ymosodiad ar Dde Korea gan filwyr o Ogledd Korea.

Roedd penrhyn Korea wedi ei haneru yn 1945 ar ôl i Japan gael ei drechu yn yr Ail Ryfel Byd.

Brwydrodd yr Unol Daleithiau ar ochor De Korea, tra bod China yn brwydro ar ochor Gogledd Korea.

Fe barhaodd y rhyfel tair blynedd a gorffen gyda chadoediad, sy’n golygu bod y ddwy wlad yn dal yn dechnegol yn rhyfela yn erbyn ei gilydd.