Mae deg o bobol wedi eu lladd ar ôl i dan sgubo drwy glwb nos lawn yn ail ddinas fwyaf Indonesia.

Roedd pobol o Awstralia a Japan ymysg y meirw, meddai llefarydd ar ran yr heddlu yno.

Daethpwyd o hyd i gorff dynes oedd yn ymddangos fel pe bai hi wedi rhoi genedigaeth yn ystod y tân, meddai. Mae trawma weithiau yn gallu prysuro genedigaeth plentyn.

Dywedodd llygaid dystion wrth swyddogion yr heddlu mai gwreichionyn o sigarét wnaeth danio’r fflamau.

Cynnodd y tân yng nghlwb y Redboxx Cafe am 3.30am wrth i gannoedd o bobol lenwi’r clwb yn Surabaya, nifer ohonyn nhw er mwyn gwylio gem Cwpan y Byd.

Cymerodd hi sawl awr i’r diffoddwyr tân reoli’r fflamau. Dywedodd yr heddlu bod pum person mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Gallai nifer y meirw gynyddu eto wrth i achubwyr chwilio’r clwb nos am fwy o ddioddefwyr.

Ychwanegodd bod yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i gyrff Peter Lee, dyn 35 oed o Awstralia, a Yoshifumi Ciba, dyn 36 oed o Japan.