Mae cyn Is-lywydd yr Unol Daleithiau, Dick Cheney, yn yr ysbyty unwaith eto wrth i feddygon bryderu ynglŷn â’i iechyd.
Mae disgwyl i Dick Cheney, sy’n 69 oed, aros yn Ysbyty Athrofaol George Washington dros y penwythnos, meddai ei lefarydd Peter Long.
Dyw hi ddim yn amlwg eto a ydi’r pryderon ynglŷn ag iechyd Dick Cheney yn ymwneud gyda’i galon. Dioddefodd ei bumed trawiad ar y galon ym mid Chwefror.
Dywedodd llefarydd ar ran Dick Cheney nad oedd o’n teimlo’n dda ddoe ac wedi mynd i weld ei ddoctoriaid yn yr ysbyty. Fe wnaethon nhw benderfynu ei gadw o i mewn am brofion pellach.
Ers gadael y Tŷ Gwyn mae Dick Cheney wedi bod yn un o leisiau mwyaf blaenllaw’r wrthblaid Weriniaethol.