Mae o leia’ 11 o bobol wedi cael eu lladd, ac mae dau arall ar goll, wedi i stormydd achosi llifogydd mawr yn ne-ddwyrain Ffrainc.

Mae glaw anarferol o drwm yn ardal Var wedi trawsnewid y strydoedd yn afonydd mwdlyd, ac mae coed, ceir ac eitemau eraill wedi cael eu cario gyda’r lli.

Roedd dwr yn ninas Draguignan dros chwe troedfedd o ddyfnder.

Effeithio miloedd o bobol

Yn ôl swyddogion lleol, fe dreuliodd 1,200 o bobol y noson mewn lloches neithiwr.

Mae degau o filoedd o bobol heb gyflenwad trydan, ac mae rhai ysgolion yn yr ardal wedi cau.

Mae’r Arlywydd Nicolas Sarkozy wedi anfon negeseuon yn cydymdeimlo â’r bobol sydd wedi cael eu heffeithio gan y tywydd gwael, ac mae wedi diolch i’r gwasanaeth brys am eu gwaith.