Bydd teithwyr trên yn Llundain yn wynebu trafferthion yn sgil streic gan weithwyr rheilffordd yn ddiweddarach y mis hwn.
Daeth y rhybudd ar ôl i’r Rail Maritime and Transport Union (RMT) ddatgan y bydd gweithwyr Dockland Light Railway yn Llundain yn mynd ar streic am dri diwrnod yn olynol 23 Mehefin oherwydd cyflogau.
“Mae ein haelodau yn Docklands Light Railway wedi dangos unwaith eto na fyddan nhw’n cael eu bwlio gan y rheolwyr i gymryd mwy a mwy o waith a chyfrifoldeb heb gael ei talu’n briodol gan y cwmni,” meddai ysgrifennydd cyffredinol RMT, Bob Crow.
‘Ymdrech’
“Mae RMT wedi gwneud pob ymdrech i gyrraedd setliad ar y mater hwn, ond mae pob un o’n cynigion wedi’u taflu yn ôl yn ein hwynebau. Nid yw hynny’n ffordd i redeg rhan allweddol o system drafnidiaeth Llundain,” meddai’r ysgrifennydd.
Mae Undeb RMT wedi dweud heddiw eu bod nhw “dal ar gael ar gyfer trafodaethau pellach ac yn gobeithio y gwnaiff Serco “ystyried eu cynigion i wneud iawn gyda’u haelodau.”
Bydd y gweithwyr tiwb yn mynd ar ddwy streic 48 awr 23 Mehefin a 14 Gorffennaf mewn cweryl ar wahan dros dâl, swyddi ac amodau gwaith.
Llun: Un o drenau’r Docklands Light Railway yn nwyrain Llundain sy’n debyg o fod yn segur yn sgil y streic (John Stillwell/Gwifren PA)