Mae’r Pab wedi ymbil am faddeuant gan ddioddefwyr a gafodd eu cam-drin gan glerigwyr ac wedi addo “gwneud popeth posibl” i sicrhau nad yw offeiriaid yn camdrin plant byth eto.

Daeth yr addewidion hyn gan y Pab Benedict XVI yn ystod Offeren derfynol i nodi diwedd blwyddyn yr offeiriad yn y Fatican – cyn bod y rali tri diwrnod yn dod i ben yn sgwar Sant Pedr.

Heddiw oedd y tro cyntaf iddo gyfeirio’n uniongyrchol yn y rali at y sgandalau cam-drin plant.

Gresynu

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un dan gysgod cannoedd o adroddiadau o achosion newydd o gam-drin clerigol.

Yn ei bregeth heddiw, roedd y pab yn gresynu at y flwyddyn ddiwethaf.

Yn hytrach na blwyddyn o “lawenydd” i’r Offeiriadaeth, fe ddywedodd fod “pechodau’r offeiriaid wedi dod i’r amlwg – yn arbennig cam-drin y rhai bach.”

Mae’r sgandal yn galw am buro’r eglwys, meddai.

Yn ei bregeth ddoe, roedd wedi amddiffyn traddodiad yr eglwys o orfodi offeiriaid i aros yn ddibriod (gweler stori ar wahân).

Llun: Y Pab Benedict XVI yn bendithio’r ffyddloniaid yn Sgwâr San Pedr, Rhufain (AP Photo/Pier Paolo Cito)