Mae o leiaf 17 o bobl wedi’u lladd a channoedd wedi’u hanafu yn Kyrgyzstan, Asia sy’n ardal tramwy allweddol i’r Unol Daleithiau ar gyfer rhyfel Afghanistan.
Fe wnaeth gangiau ymosod ar siopau a llosgi ceir yn Osh, ail ddinas fwyaf y wlad.
Roedd sawl adeilad ar draws y ddinas ar dân.
Yn ôl y Weinyddiaeth Iechyd, mae llawer o’r rhai a gafodd eu hanafu yn y digwyddiad yn derbyn triniaeth am anafiadau trywanu neu am anafiadau dryll.
Mae dros 40 o bobl mewn cyflwr difrifol.
Llun: Map yn dangos lleoliad Kyrgyzstan, rhwng Kazakhstan a China yng nghanolbarth Asia