Mae darlledwyr a gwleidyddion wedi condemnio’r Llywodraeth am ddileu cynllun i roi gwasanaeth newyddion newydd i Gymru.

Roedd un o’r cwmnïau yn y fenter – NWN – Papurau Newydd Gogledd Cymru – yn dweud eu bod yn “siomedig” gyda’r penderfyniad ddoe.

NWN oedd partner y cwmni teledu o Ogledd Iwerddon, UTV, wrth ennill yr hawl i gynnal cynllun peilot i greu rhaglenni newyddion ar gyfer sianel ITV yng Nghymru.

Roedd yn un o dri chynllun peilot trwy wledydd Prydain, ar ôl i ITV ddweud eu bod yn cael trafferth i gynnal eu gwasanaethau eu hunain.

Petai’r cynlluniau peilot yn llwyddo, bwriad y Llywodraeth Lafur oedd ymestyn y syniad r draws gwledydd Prydain.

‘Jyncis’

Roedd y Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu’r cynllun o’r dechrau a ddoe fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, eu bod yn rhoi’r gorau iddo.

Fe fyddai grantiau’n cael eu rhoi i dalu am y gwasanaeth ac, yn ôl Jeremy Hunt, fe fyddai hynny wedi troi’r gwasanaethau’n “jyncis” arian cyhoeddus “yn canolbwyntio ar berswadio gweinidogion llywodraeth a rheoleiddwyr yn hytrach nag ar ennill gwylwyr”.

Mae’r penderfyniad yn golygu y bydd ITV yn parhau gyda rhyw fath o wasanaeth newyddion i Gymru a’ r rhanbarthau – yn ddiweddar, roedden nhwthau wedi dechrau ailfeddwl a doedd dim sicrwydd y bydden nhw’n cytuno gyda’r cynlluniau peilot.

Beirniadu

Ond yn ôl Prif Weithredwr NWN, David Faulkner, roedd y penderfyniad yn “siom” gan fod y cynllun peilot yn “ffordd wych” o gynyddu’r gwasanaeth newyddion ar Sianel 3 a thrwy gyfryngau eraill ar draws Cymru.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi ymosod ar y penderfyniad. Roedd yn “newyddion siomedig i’r gynulleidfa yng Nghymru”, meddai AS Caernarfon, Hywel Williams.

“Dw i’n siomedig iawn nad ydi’r Llywodraeth o leia’ wedi caniatáu i’r cynlluniau peilot ddigwydd i weld a fydden nhw’n gweithio,” meddai.

Roedd hefyd yn feirniadol o Lafur am lusgo’u traed tros y cynllun a methu â’i gyflawni cyn yr Etholiad Cyffredinol.

• Roedd gan gwmni Tinopolis o Lanelli ran yn y cynllun peilot yn yr Alban; mae hwnnw hefyd wedi’i ddileu.

Llun: Canolfan ITV yng Nghroes Cwrlwys (Christopher Ware – CCA2.0)