Fe fydd undeb Unite yn cynnig rhagor o dâl i weithwyr caban sy’n streicio.
Wrth iddyn nhw ddechrau ar y cyfnod diweddara’ o streiciau pum niwrnod yn erbyn British Airways, mae’r undeb am dalu £45 y dydd i’r streicwyr, o’i gymharu â £30 cyn hyn.
Mae’r undeb hefyd yn ystyried rhoi benthyciadau di-log o gymaint â £1,000 i streicwyr sy’n wynebu caledi arbennig.
Mae’r undeb yn bygwth cynnal pleidlais arall er mwyn parhau â’r streicio tros yr haf, ond mae cwmni BA’n mynnu bod rhagor o weithwyr caban yn dod yn ôl i’r gwaith.
Roedden nhw wedi gallu cynnal mwy na’r disgwyl o deithiau pell heddiw, meddai llefarydd, a hynny o faes awyr Heathrow.
Maen nhw’n dweud bod yr holl deithiau o Gatwick a maes awyr Dinas Llundain yn digwydd fel arfer.
Yn y cyfamser, mae’r mudiad cymodi, Acas, yn cadw cysylltiad gyda’r ddwy ochr ac yn disgwyl galw trafodaethau newydd yn fuan.
Erbyn hyn mae’r undeb a’r cwmni wedi cytuno mewn egwyddor ar newidiadau i’r drefn weithio ond mae BA’n dal i wrthod adfer breintiau i weithwyr sydd wedi streicio.
Llun: Gwifren PA