Mae lluoedd arfog Israel wedi atal llong ddyngarol a’i chriw rhag cyrraedd Gaza, lai nag wythnos ar ôl i nifer o bobol gael eu lladd mewn amgylchiadau tebyg.

Doedd dim trais y tro yma, ac mae’r llong bellach yn cael ei hebrwng i borthladd Iddewig Ashdod.

Ond mae ‘r mudiad Rhyddhau Gaza, wnaeth anfon y llong, wedi dweud y bydd mwy o longau yn cael eu hanfon.

Eu hamcan yw tynnu sylw pellach i’r modd y mae Israel yn rhwystro nwyddau rhag teithio yn uniongyrchol i Gaza.

Mae honiadau fod prinder o adnoddau hanfodol – gan gynnwys bwyd – yno yn sgil y blocâd.

Naw yn marw

Roedd chwech o longau eraill wedi hwylio i herio’r blocâd ddechrau’r wythnos, ond cafodd naw o bobol eu saethu’n farw ar un ohonyn nhw gan filwyr Israel.

Mae Llywodraeth Israel wedi amddiffyn yr embargo, ac wedi honni mai saethu ar ôl i deithwyr ymosod arnyn nhw wnaeth y milwyr.

Ond ers y digwyddiad, mae Israel wedi bod o dan bwysau i newid eu polisi, ac mae adroddiadau fod eu cefnogwr pennaf, Unol Daleithiau America, wedi eu hannog i ollwng rhywfaint ar y rhwystrau.

Amcan y blocâd, yn ôl Israel, yw rhwystro arfau rhag cael eu mewnforio i ddwylo Hamas, y mudiad milwrol sy’n llywodraethu yn Gaza.