Mae’r Ceidwadwyr wedi eu rhoi mewn sefyllfa anodd wrth i wrthwynebydd David Laws yn ei etholaeth alw am gynnal ail etholiad.

Dywedodd Kevin Davies, yr ymgeisydd Ceidwadol yn ei sedd Yeovil yng Ngwlad yr Haf, bod David Laws wedi ennill yr etholaeth drwy ymgyrchu “ar sail celwydd llwyr”.

Ychwanegodd y Ceidwadwr ar ei flog bod David Laws wedi seilio ei ymgyrch “ar y syniad ei fod o’n AS wnaeth osgoi’r sgandal costau”.

“Mae hynny’n amlwg yn gelwydd erbyn hyn,” meddai Kevin Davies, gan ddweud y dylai David Laws ymddiheuro i’w wrthwynebwyr yn yr etholiad a’i etholaeth.

Dywedodd Kevin Davies y dylai Dvaid Laws gytuno i isetholiad newydd, neu gael ei “alw yn ôl” gan ei etholaeth dan ddeddfwriaeth newydd y Llywodraeth Glymblaid.

Mae sylwadau’r ymgeisydd yn rhoi’r Prif Weinidog mewn sefyllfa anodd. Mae o wedi canmol David Laws ers iddo ymddiswyddo fel Ysgrifennydd y Trysorlys dydd Sadwrn.

Ychwanegodd bryn hynny ei fod o’n gobeithio ei weld yn ôl yn y llywodraeth yn fuan.