Mae’n bosib na fydd maswr Caerfaddon, Butch James, yn cael chwarae Cymru yn Stadiwm y Mileniwm dydd Sadwrn.

Mae Premier Rugby Ltd, y sefydliad sy’n edrych ar ôl buddiannau clybiau Uwch Gynghrair Lloegr wedi dweud nad oes hawl gan James i chwarae i’r Springboks oherwydd bod y gêm tu allan i’r ffenestr swyddogol gemau rhyngwladol.

Mae gan Premier Rugby Ltd bolisi llym o atal chwaraewyr Uwch Gynghrair Lloegr rhag chwarae mewn gemau rhyngwladol tu allan i’r dyddiadau swyddogol.

Fe gafodd hyfforddwr yr Alban, Andy Robinson ei rwystro rhag dewis pedwar chwaraewr ar gyfer eu gêm yn erbyn Japan neithiwr.

Mae’n debyg nad oedd gan Gaerfaddon unrhyw wrthwynebiad i James chwarae yn erbyn Cymru ond fe ddywedodd Premier Rugby Ltd bod angen iddynt gadw at y polisi.

Ond mae De Affrica yn honni bod y gêm yn erbyn Cymru yn disgyn o fewn ffenestr swyddogol gemau rhyngwladol ym mis Mehefin.