Mae Cymdeithas yr Iaith yn ystyried herio penderfyniad y Cynulliad i beidio cyfieithu’r Cofnod o holl drafodaethau’r Senedd i’r Gymraeg.

Ond mae’r gwr a fu’n ymchwilio i ddwyieithrwydd yn mynnu mai’r nod yw creu ‘sefydliad gwirioneddol ddwy-ieithog’.

Yn ôl Arwel Elis Owen mae argymhellion ei banel yn sichrau fod pob cam o waith y Cynulliad yn gwbwl ddwyieithog ar wahân i’r cofnod ysgrifenedig.

Ond mae’n mynnu bod defnydd technoleg yn sichrau mai’r cofnod pwysicaf o drafodion y Senedd yw’r cofnod teledol ar senedd.tv.

“Mae’r gwasanaeth i’r defnyddiwr yn gwbwl ddwy-ieithog ar wahan i drafodaethau’r Cynulliad. Does gynnon ni ddim rheolaeth dros hynna,” meddai Arwel Ellis Owen, cadeirydd y panel annibynnol a gafodd ei sefydlu i ymchwilio i ddwyieithrwydd y Cynulliad.

“Mae ganddom ni i raddau reolaeth dros bob peth arall i sicrhau hyd at pan mae’r aelod yn sefyll ar ei draed fod y gwasanaeth yn gwbwl ddwy-ieithog. Os yw’r aelod yn dewis siarad Saesneg, dyna ffaith bywyd. Rhaid i ni fyw efo hynny. Ond mae pob darpariaeth gan y Cynulliad, gan y sefydliad hyd at y pwynt yna [yn gwbl ddwy-ieithog].”

Argymhellion

Mae’r panel annibynnol wedi penderfynu bod ffyrdd eraill o hyrwyddo defnydd o’r iaith yn sefydliad ein democratiaeth.

Mae 30 o argymhellion i’r Comisiwn ar sut i greu ‘sefydliad gwirioneddol ddwy-ieithog’.

Mae pwyslais mawr ar ddefnydd o dechnoleg yn yr argymhellion sy’n dweud mai’r cofnod pwysicaf o drafodion y Senedd yw’r cofnod teledol ar senedd.tv.

Mae’n argymell hyfforddi mwy o staff i ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith ac yn galw am ‘Gofnod y Werin’, cofnod cryno ar-lein o ‘brif faterion’ y dydd yn y Siambr gyda linc i’r trafodaethau ehangach.

Pwyslais arall yw ar sicrhau bod deunydd Cymraeg yn dod ar gael yr union yr un pryd â deunydd Saesneg, ac nid ychydig ddyddiau’n ddiweddarach fel sy’n gallu digwydd ar hyn o bryd.

Ymateb Cymdeithas

Ond mewn rali ar y Mesur Iaith ddydd Sadwrn, cafodd yr argymhellion eu beirniadu’n llym.

“Mae e’n gam yn ôl enfawr,” meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith. “Mae’r cofnod yn bwysig am bob math o resymau. Mae e’n bwysig ei fod e yna ar gyfer pobol sydd eisiau gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg – newyddiadurwyr, pobol sydd eisiau ei ddarllen e’n y Gymraeg – ac mae’n bwysig o safbwynt technolegol hefyd. Mae google translate [peiriant cyfieithu ar-lein] wedi dod allan o’r cofnod. Felly mae’n bwysig am bob math o resymau.

“Ond hefyd mae’r Cynulliad yn dangos neges gymysg iawn yn dweud bod dim eisiau cyfieithu pob peth i’r Gymraeg, yn trin y Gymraeg fel rhywbeth ymylol eto.”

Ym mis Awst y llynedd datgelodd Golwg360 fwriad y Comisiwn i roi stop ar gyfieithu’r cofnod i’r Gymraeg. Bryd hynny dywedodd Cymdeithas yr Iaith ei bod am fynd â’r mater i lys barn oni bai fod yn penderfyniad yn cael ei wyrdroi.

Mae’r Gymdeithas yn disgwyl cyngor cyfreithiol unwaith eto yn sgil cyhoeddi adroddiad y panel annibynnol a bwriad y Comisiwn i dderbyn yr holl argymhellion.

“Os yw’r Comisiwn o ddifrif ynglyn â’r Gymraeg dylai’r Gymraeg gael ei thrin fel iaith weinyddol, nid fel rhywbeth ymylol, nid fel rhywbeth add-on ond rhywbeth sy’n gyfrwng yn y Cynulliad,” meddai Menna Machreth.