Bydd Cymdeithas Tai Clwyd yn datblygu 63 o gartrefi eleni – y nifer blynyddol mwyaf yn hanes 30 mlynedd y sefydliad.
Bydd y 63 o gartrefi hyn yn cael eu hadeiladu yng ngogledd Cymru yn ystod 2010–2011, ochr yn ochr â dau gynllun tai gofal ychwanegol ar gyfer yr henoed yn Y Bala a Rhuthun.
Cam mawr
“Mae hwn yn gam mawr yn hanes Cymdeithas Tai Clwyd sy’n gweithredu o fewn ffiniau siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Wrecsam a gogledd Powys,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd, Alwyn Llwyd.
“Mae hefyd yn fuddsoddiad sylweddol i’r diwydiant adeiladu tai yng ngogledd Cymru.
“Mae’r diwydiant adeiladu wedi diodde’ caledi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydan ni’n hynod o falch o allu cynnig gwahanol gytundebau i gwmnïau adeiladu gogledd Cymru. Mi fydd hyn yn sicrhau swyddi lleol.”
LLUN: Rheolwr Datblygu’r Gymdeithas, Bryn Davies gyda Cerian Wyn Evans, Hwylusydd Tai Gwledig Siroedd Conwy a Dinbych a’r Prif Weithredwr Alwyn Llwyd.