“Mae afiechydon coed yn dod yn fwy o broblem nawr,” meddai arbenigwr o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru wrth Golwg360.

“Beth bynnag mae rhywun eisiau ei alw, patrymau tywydd neu newid hinsawdd – mae pethau wedi bod yn wahanol dros y blynyddoedd diwethaf ” meddai Chris Jones, swyddog cyswllt Comisiwn Coedwigaeth Cymru, wrth sôn am goed sydd wedi’u heintio ag afiechydon bacteria.

Oherwydd “hafau gwlypach ers tair blynedd,” rydan ni wedi gweld “cynnydd dramatig mewn llawer o afiechydon coed,” meddai Chris Jones.

Dirywiad

“Mae’n ddechrau cyfnod pan mae coed yn tyfu ac mae pobol yn sylwi ar afiechydon newydd,” meddai cyn dweud fod ‘Acute Oak Delcine’ yn un o’r afiechydon hyn sydd wedi’u greu gan facteria newydd.

Er mai yn Lloegr y gwnaeth yr afiechyd derwen hwn ddechrau, mae adroddiadau am goed derwen sydd wedi’u heffeithio yng Nghymru hefyd, meddai – yn bennaf ar y ffin ac yng ngogledd Cymru.

Derwen

Mae ‘Acute Oak Decline’ i’w weld mewn coed derw aeddfed 50 mlwydd oed. Ymhlith y symptomau mae gwaedu boncyffion coed. Mae’r afiechyd yn effeithio’r ddau fath o dderw Prydeinig – y Quercus robur a C Petraea.

Mae hylif tywyll yn ymddangos o graciau bach yn rhisgl cyffion coed ac yn rhedeg i lawr boncyff y goeden. Mae coed yn gallu marw o fewn pedair, pum mlynedd i ddechrau’r sumtomau hyn.

Yn ystod camau cynnar yr afiechyd, nid oes unrhyw newidiadau yn iechyd canopi’r goeden, ond wrth i’r canopïau coed farw maen nhw’n mynd yn deneuach.

Rhybudd

Mae’r comisiwn coedwigaeth yn rhybuddio yn erbyn plannu rhagor o goed derw sydd â’r afiechyd hwn ac i fod yn “wyliadwrus o gasglu a phlannu mês neu goed ifanc sydd wedi’u heintio.”

Hefyd, maen nhw’n annog peidio defnyddio pren coed sydd wedi heintio gan nad yw arbenigwyr yn siŵr pa mor hir mae’r bacteria’n byw ar y pren.