Mae’r Heddlu ym Mhont-y-pŵl yn apelio am wybodaeth ar ôl i ferch 16 oed fynd ar goll o’i chartref ym Mlaenafon bedwar niwrnod yn ôl.

Fe gafodd Samantha Parnell ei gweld ddiwethaf ddydd Sadwrn Mai 15 am chwarter wedi naw yr hwyr. Roedd hi’n gwisgo jîns tywyll, bŵts du, top pinc hir a chardigan neu siaced ddu ac roedd yn cario bag llaw du.

Mae’r ferch yn cael ei disgrifio fel person gwyn, pum troedfedd pedwar modfedd o daldra, o faint canolig gyda gwallt hir du. Mae’r Heddlu’n credu efallai ei bod yn ardal De Cymru.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.