Mae disgwyl i Fanc Lloegr beidio â chodi cyfraddau llog fory, oherwydd y sefyllfa wleidyddol yn San Steffan.
Roedd disgwyl i’r rheiny sy’n penderfynu ar bolisi gyfarfod yr wythnos ddiwethaf i drafod y mater, ond fe ohiriwyd y cyfarfod hwnnw oherwydd yr etholiad cyffredinol. Yr wythnos hon, mae disgwyl iddyn nhw gadw’r gyfradd ar 0.5%.
Ond fe fydd gan bwyllgor yr MPC (y Monetary Policy Committee) nifer o bethau i’w hystyried – ac mae’r senedd grog yn San Steffan yn un ohonyn nhw. Mae’n sicr o gael effaith ar ddyfodol economi gwledydd Prydain.
Clymblaid
Er bod y trafodaethau rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau heddiw, mae gan y ddwy blaid syniadau gwahanol iawn ynglyn â sut i fynd i’r afael â dyled gwledydd Prydain.
Mater arall a fydd yn agos at frig agenda y cyfarfod deuddydd, fydd y cynnydd ym mhris olew, a sut mae hynny wedi codi costau byw.