Mae cefnogwr tim pêl-droed Lloegr wedi ei “chwalu” heddiw, ar ôl i’r Uchel Lys nodi y bydd yn rhaid iddo dreulio dwy flynedd yn y carchar ym Mhortiwgal.

Mae Garry Mann wedi colli ei frwydr i beidio â chael ei ystraddodi yno, ar ôl ei gael yn euog o achosi reiat yn ystod pencampwriaeth Ewro 2004. Ond mae’r cyn-ymladdwr tân o Kent yn dweud na chafodd achos teg ym Mhortiwgal.

Heddiw, fe geisiodd ei gyfreithwyr osod y ddadl am adolygiad barnwrol gerbron yr Uchel Lys, gan ddadlau fod yna dystiolaeth newydd ar gael a fyddai’n taflu goleuni newydd ar yr achos.

Ond doedd dim posib dadlau tros adolygiad barnwrol, meddai’r Ustus Irwin.

Diwedd y daith

Wrth siarad y tu allan i’r llys, fe ddywedodd Mr Mann fod ei fywyd wedi ei “chwalu” gan y penderfyniad.

Roedd Jago Russell, Prif Weithredwr y mudiad Fair Trials International, sydd wedi cefnogi Garry Mann bob cam o’r ffordd, yn gorfod cydnabod: “Dyma ddiwedd y daith go iawn.”

Mae disgwyl y bydd Garry Mann yn gorfod gadael gwledydd Prydain yn ystod y dyddiau nesaf.