Mae Heddlu De Cymru yn dal i apelio am dystion ar ôl marwolaeth dyn canol oed yn Aberpennar ddoe.

Daethpwyd o hyd i Michael Hayes, 60 oed, ar Stryd Jeffrey yn Aberpennar yn gynnar bore dydd Iau. Cafodd yr heddlu wybod tua 5.00am.

Cafodd Michael Hayes ei gymryd i Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful lle bu farw. Maen nhw’n dal i ymchwilio i beth achosodd ei farwolaeth.

Dau berson wedi cysylltu

Mae dau berson yr oedd yr heddlu wedi apelio arnyn nhw i gysylltu wedi gwneud hynny, a dydyn nhw ddim bellach yn rhan o’r ymchwiliad.

Nhw oedd wedi rhoi gwybod i’r heddlu am Michael Hayes yn y lle cynta’.

“R’yn ni’n awr yn apelio ar i bobol eraill gysylltu i’n helpu ni gyda’n hymchwiliadau,” meddai’r Ditectif Arolygwr Paul Burke o Heddlu De Cymru.

“R’yn ni’n ymwybodol fod Michael Hayes wedi bod yn yfed gyda ffrindiau yn nhafarn The Harp yn Aberpennar y noson honno. R’yn ni’n gofyn i’r rheiny gysylltu gyda ni.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Gorsaf Heddlu Aberdâr ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.