Mae’n ymddangos yn sicr y bydd y rhan fwya’ o wasanaethau trên Cymru a llawer o’r gwasanaethau bws yn cael eu gwerthu i gwmni o’r Almaen.
Mae bwrdd Arriva wedi derbyn cynnig gan Deutsche Bahn, sydd am brynu’r cwmni Prydeinig am ychydig tros £1.5 biliwn.
Arriva sy’n gyfrifol am y rwydwaith trenau Cymru ac maen nhw hefyd yn cynnal gwasanaethau bws mewn sawl rhan o’r wlad.
Fe fydd y cwmni newydd yn un o’r busnesau trafnidiaeth mwya’ yn y byd ac mae disgwyl y bydd rhagor o brynu a gwerthu ac uno yn y maes.
Roedd Deutsche Bahn eisoes wedi prynu’r cwmni sy’n cynnal gwasanaethau trên rhwng Wrecsam a Llundain.
Gwerth
Mae gwerth cyfrannau Arriva wedi codi mwy na 50% ers i’r straeon ddechrau ynghynt eleni y bydden nhw’n cael eu prynu.
Ar hyn o bryd, maen nhw’n gwerthu am tua 765 ceiniog – 10 ceiniog yn llai na gwerth y cynnig gan Deutsche Bahn.
Fe fydd rhaid i gyfranddalwyr Arriva dderbyn y cynnig ond mae’r rhan fwya’ o sylwebwyr yn sicr y bydd hynny’n digwydd.