Mae’r papurau Ceidwadol wedi troi tu min at arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar fore’r ail ddadl deledu fawr rhwng arweinwyr y tair prif blaid.

Maen nhw wedi cyhoeddi cyfres o straeon am Nick Clegg, gan gynnwys rhai’n codi amheuon am lwfansau a thaliadau a wnaed i’w gyfri’ personol.

Mae disgwyl hefyd y bydd y ddau arweinydd arall, Gordon Brown a David Cameron, yn llawer mwy ymosodol at Nick Clegg yn y ddadl heno.

Yn ystod yr wythnos ers ei lwyddiant mawr yn y ddadl gynta’, mae Llafur a’r Ceidwadwyr wedi bod yn ymosod ar rai o bolisïau’r Democratiaid.

Ond, gyda nifer o arolygon barn yn rhoi’r Democratiaid yn ail neu hyd yn oed ar y blaen, y papurau asgell dde sydd wedi bod ucha’u cloch.

Honiadau newydd

Yn y Daily Telegraph y mae’r honiadau newydd – bod tri dyn busnes wedi talu arian misol i mewn i gyfri’ personol Nick Clegg yn 2006, cyn iddo ddod yn arweinydd.

Roedd y tri wedi gwneud yn glir bod yr arian yn mynd at gyflogi ymchwilydd ond mae’r trefniant i dalu trwy gyfri’ personol yn un anarferol.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynnu fod popeth wedi ei wneud yn agored a’i glirio gyda’r awdurdodau.