Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Joe Allen, yn disgwyl gêm drydanol pan fydd cewri pêl droed Cymru yn wynebu ei gilydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar y penwythnos.
Fe fydd Caerdydd ac Abertawe yn ymdrechu’n galed i sicrhau’r canlyniad er mwyn cryfhau eu gobeithion o sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.
Dyw Allen ddim yn disgwyl i’r gêm fod yn ddim llai angerddol na’r pedair darbi sydd wedi cael eu cynnal dros y 18 mis diwethaf.
“Mae’r gêmau yma wastad yn rhai gwych i’w gwylio,” meddai.
“Mae’r awyrgylch yn ardderchog i’r chwaraewyr ac rwy’n gobeithio y bydd hi’n gêm dda arall. Maen nhw’n gyffrous bob tro.”
Fe ddaeth unig gôl Joe Allen i’r Elyrch yn y gêm gyfartal yn erbyn Caerdydd ar Barc Ninian y tymor diwethaf.
Roedd yr Elyrch yn credu bod gôl y Cymro wedi sicrhau’r fuddugoliaeth cyn i Ross McCormack achub Caerdydd gyda chic gosb hwyr.
“Roedd yn brofiad gwych i sgorio ond roedd yn siomedig pan wnaethon nhw unioni’r sgôr yn hwyr. Ond r’yn ni’n edrych ‘mlaen i’r gêm ar y penwythnos,” ychwanegodd Allen.