Bydd amddiffynnwr Caerdydd, Gabor Gyepes ddim yn chwarae am rhwng tair i bedair wythnos ar ôl dioddef anaf yn erbyn Caerlŷr nos Fawrth.
“R’yn ni eisoes wedi colli Gabor am ddydd Sadwrn am ei fod e wedi’i wahardd, ond mae e’ hefyd wedi rhwygo ei linyn y gar. Fe fydd e allan am dair i bedair wythnos,” meddai rheolwr Caerdydd, Dave Jones.
Fe ddaw hyn yn ergyd arall i’r Adar Glas sydd eisoes wedi colli Chris Burke a Mark Kennedy am gyfnod gyda’r un anaf.
Mae Dave Jones yn wynebu problemau mawr wrth iddo geisio dewis ei amddiffynwyr i wynebu Abertawe yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar y penwythnos.
Mae yna amheuon ynglŷn ag Anthony Gerrard, Darcy Blake a Paul Quinn, ac mae Caerdydd heb Mark Hudson a Kevin McNaughton o hyd.
Mae’r ymosodwr, Kelvin Etuhu hefyd yn amheuaeth i wynebu’r Elyrch.
“R’yn ni’n aros am Anthony Gerrard, Darcy Blake a Kelvin Etuhu. Fe fyddwn ni’n edrych ar bawb yfory a mynd ymlaen o’r fan yna,” meddai Jones.
“R’yn ni wedi bod fel hyn dros yr wythnosau diwethaf, felly dyw e ddim yn rhywbeth newydd.
“Ond mae pawb sydd wedi chwarae yn ddiweddar wedi bod yn wych. Gyda gêm ddarbi nesaf rwy’n disgwyl y bydd pawb sydd ar gael yn awyddus i chwarae a gwneud yn dda,” nododd y rheolwr.
Un darn o newyddion da i Dave Jones yw bod Jay Bothroyd ar gael yn dilyn ei waharddiad am y ddwy gêm ddiwethaf.