Bydd Ffair Ddylunio’n cael ei chynnal yn Ysgol yr Hendre, Caernarfon fis yma.

Dyma’r cam diweddaraf yng nghynllun Cyngor Gwynedd i godi ysgol newydd gwerth £6.9 miliwn yn lle Ysgol yr Hendre.

Eisoes, mae’r cyngor wedi cadarnhau mai Cae Phillips, ger y A4085 sef Ffordd Llanbeblig, fydd safle’r ysgol newydd.

Gwaith archeolegol

Bydd gwaith archeolegol yn cael ei gynnal i baratoi’r safle dros yr wythnosau nesaf cyn cychwyn y gwaith o godi’r ysgol newydd.

“Bydd yr ysgol yn darparu’r adnoddau addysgiadol gorau ar gyfer plant ardal Peblig a Seiont ac yn ateb gofynion y 21ain ganrif,” meddai Arwel Jones, Pennaeth Ysgol yr Hendre.

“Bydd yr ysgol newydd yn creu awyrgylch braf i’r plant ddysgu ac yn cynnig y cyfleusterau gorau i staff wneud eu gwaith.

“Bydd hefyd yn darparu canolfan ar gyfer gwasanaethau arbenigol ar gyfer disgyblion a’u teuluoedd ac fel adnawdd i’r gymuned.”


“Carreg filltir”

Dywedodd y Cynghorydd Liz Saville Roberts, Arweinydd Portffolio Addysg ar Gyngor Gwynedd: “Rydym wrth ein bodd o gyrraedd y garreg filltir yma ac yn falch o’r ysbryd cymunedol sydd i’w weld ymysg y partneriaid – rhieni, llywodraethwyr ac athrawon yr ysgol; y tirfeddiannwr a’r datblygwr yn ogystal â’r tîm archeolegol.”

Mae’r ysgol newydd yn cael ei chynllunio gan y penseiri JIG Architects a bydd cynrychiolwyr o’r cwmni yn mynychu’r digwyddiad a bydd cyfle i’r cyhoedd sgwrsio â nhw.

Fe fydd y ffair yn cael ei chynnal ar 7 Ebrill rhwng 6 a 9yh.