Roedd diffoddwyr tân a chriwiau achub gogledd Cymru’n brysur yn ymdrin â llifogydd trwm yn Abergele, Rhyl a Llanfairfechan bore ddoe.
Cafodd criwiau achub o Abergele a Bae Colwyn a’r Uned Digwyddiadau Dŵr o Fangor eu galw i Beach Road, Llanddulas, Abergele am 11:49 o’r gloch i gynorthwyo trigolion i amddiffyn eu heiddo rhag dŵr y môr.
Hefyd, fe gafodd diffoddwyr tân eu galw i Ffordd Garford, Y Rhyl am 12:32 o’r gloch y prynhawn i ymdrîn â llifogydd yn y stryd ac am 12:39 i Stryd Linden, Promenâd, Llanfairfechan i ymdrin â llifogydd mewn sawl tŷ.
Roedd criwiau achub ar y safle am beth amser yn ceisio pwmpio dŵr o lawr isaf fflatiau yn yr ardal.
Ond dywedodd llefarydd ar ran gwasanaethau achub Gogledd Cymru wrth Golwg360 nad oedden nhw wedi derbyn galwadau’n ymwneud a thywydd garw a llifogydd ar ôl amser cinio.