Mewn noson arbennig yn llyfrgell Glyn-nedd yn ddiweddar, cyhoeddwyd mai enillwyr cyntaf gwobr Max Boyce oedd yr awduron ifanc Fflur Dafydd a Rachel Trezise, am y nofelau Y Llyfrgell (Y Lolfa, 2009) a Dial M for Merthyr (Parthian, 2007).
Cyflwynwyd y wobr iddyn nhw fel rhan o brosiect Darllen Difyr 2010 sy’n cael ei noddi gan Gyngor Llyfrau Cymru, ac sy’n cael ei ddewis gan y darllenwyr o blith rhestr fer o gyhoeddiadau gorau’r ddeng mlynedd ddiwethaf.
“Mae’n fraint i dderbyn gwobr sydd wedi ei ddewis gan ddarllenwyr Cymru,” medd Fflur Dafydd, sy’n ddarlithydd yn yr Adran Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe.
“Dros y ddwy flynedd diwethaf, dw i wedi teithio o gwmpas pob math o gymunedau darllen yng Nghymru, ac yn aml, dw i’n ffeindio mai y darllenydd cyffredin sydd yn ymateb yn fwyaf craff a gonest i’r gwaith, felly mae cael sêl eu bendith nhw yn golygu cryn dipyn.”
Dyma’r ail wobr i Fflur Dafydd ei derbyn am y nofel hon, gan iddi hefyd gipio Gwobr Goffa Daniel Owen 2009 yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.
Mae’r wobr hefyd yn ategu at rhestr faith Rachel Trezise o wobrau llenyddol, sy’n cynnwys Gwobr Dylan Thomas 2006 am ei chyfrol Fresh Apples.
Mae’r ddwy bellach yn gweithio ar nofelau newydd – gyda nofel Rachel, Sixteen Shades of Crazy, i ymddangos ym mis Mai eleni, a nofel Saesneg nesaf Fflur, sy’n ddiweddariad o chwedl Culhwch ac Olwen, i’w gyhoeddi yn 2011.