Mae un o arweinyddion gwrthryfelwyr Chechnya wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad gan hunan fomwyr ym Moscow ar ddechrau’r wythnos.
Fe ddywedodd Doku Umarov, arweinydd gwrthryfelwyr Islamaidd yn Chechnya a rhanbarth Gogledd Caucasus, ar wefan o blaid y gwrthryfelwyr, bod yr ymosodiad yn dial am sifiliaid sy’n cael eu lladd gan luoedd arfog Rwsia.
Ychwanegodd yr arweinydd y bydd ymosodiadau ar ddinasoedd Rwsia yn parhau.
Mae awdurdodau yn Rwsia wedi dweud mai gwrthryfelwyr o ardal Gogledd Caucasus Rwsia sy’n gyfrifol am yr ymosodiad terfysg gyntaf ym Moscow mewn chwe blynedd.
Bu farw 39 o bobl yn y ffrwydradau ar ôl i ddwy fenyw chwythu eu hunain i fyny ar drenau tanddaearol bore dydd Llun diwethaf.
Mae Prif Weinidog Rwsia, Vladimir Putin wedi addo “dinistrio” pwy bynnag oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau.
(Llun: Intelcenter)