Bydd stormydd eira a wnaeth greu difrod ar draws Prydain a lladd un ferch ysgol yn tawelu heddiw – ond mae rhagolygwyr wedi rhybuddio bod yna fwy o dywydd garw ar y ffordd dros y penwythnos.
Bu farw Natasha Paton, 17, ddoe pan syrthiodd ei bws 10 troedfedd i mewn i afon yn ystod storm eira, wrth i dywydd “erchyll” daro’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Roedd hi’n un o 39 disgybl a chwe oedolyn o Ysgol Gynradd Lanark ar y bws oedd ar ei ffordd i Alton Towers pan ddisgwyddodd y ddamwain yn De Swydd Lanark, yn yr Alban.
Mae’n debyg ei bod hi wedi ei thaflu allan o’r bws wrth iddo syrthio i lawr y dibyn ac wedi ei dal oddi tano wrth iddo lanio.
Mae rhai o rieni’r ysgol wedi cwestiynu pam fod y daith wedi mynd yn ei flaen er gwaetha’r rhybuddion ynglŷn â’r tywydd garw.
Mae disgwyl lot o law, gwynt a thymheredd is na’r arferol ar gyfer penwythnos y Pasg, wrth i ddwy filiwn o bobol ffoi am wledydd cynhesach.
Ddydd Gwener mae disgwyl i law trwm symud i’r gogledd ar hyd Prydain, a dydd Sadwrn fe fydd yna fwy o wynt a glaw.
“Fe fydd yn sych dros y rhan fwyaf o Brydain ddydd Sul, cyn i’r tywydd tymhestlog ddod yn ei ôl dydd Llun y Pasg,” meddai Steve Ellison o gwmni rhagweld y tywydd MeteoGroup.