Fe fydd Prifysgol Caerdydd yn suddo twll ym maes glo y de fel rhan o ymchwil i ddulliau carbon isel o greu ynni.

Mae’r Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol yn yr Adran Peirianneg wedi cael dros £8 miliwn i ymchwilio i dechnolegau ynni carbon isel.

Bwriad y prosiect yw dod o hyd i dechnolegau newydd a helpu busnesau i werthu syniadau arloesol a datblygu cynnyrch newydd ar gyfer economi carbon isel.

Suddo twll cloddio

Fel rhan o’r rhaglen fe fydd y Ganolfan Ymchwil yn arwain prosiect i suddo twll turio ym maes glo y de er mwyn treialu a phrofi’r dechnoleg o gladdu a storio carbon.

“Mae datblygu’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau carbon isel yn allweddol os ydym am osod Cymru ymhlith arweinwyr y byd yn y maes yma,” meddai’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones.

Mae gobaith y bydd yr ymchwil yma’n gallu helpu creu dau ddiwydiant newydd yng Nghymru gan greu swyddi a busnesau newydd yn ogystal â chyfrannu i ymdrech Cymru i fod yn hunan cynhaliol mewn ynni.

“Mae’n amser cyffrous iawn i’r Brifysgol ac fe fydd yn helpu Cymru i fod ar flaen y gad gyda thechnolegau carbon a chreu swyddi gwyrdd,” meddai Cyfarwyddwr Adran Peirianneg Prifysgol Caerdydd, yr Athro Hywel Thomas.