Mae chwarter Gweriniaethwyr yr Unol Daleithiau yn credu mai Obama yw’r ‘Anghrist’, yn ôl pôl piniwn dadleuol newydd.
Yn ôl y pôl piniwn gan Harris, roedd 40% o Americanwyr yn credu bod yr arlywydd yn sosialydd, a tua chwarter yn credu ei fod o’n hiliol.
Dim ond 14% oedd yn credu mai Obama oedd yr ‘Anghrist’ – cymeriad o’r Beibl sy’n smalio bod yn Feseia er mwyn gwneud drygioni – ond roedd 24% o Weriniaethwyr yn credu hynny a 6% o Ddemocratiaid.
Fe wnaeth Harris gynnal yr arolwg o 2,320 o oedolion rhwng 1-8 Mawrth. Roedd y cwmni yn darllen 15 datganiad ac roedd yr atebwr yn dweud a oedden nhw’n wir neu’n anwiredd.
Dywedodd y cwmni eu bod nhw “wedi synnu”.
“Mae’n dangos bod lot fawr o bobol yn anwybodus nid yn unig ynglŷn â’r Arlywydd Obama ond nifer o bethau mewn bywyd modern.”