Mae dyn wedi cael ei arestio ym Mhacistan wedio ei amau o arwain criw wnaeth herwgipio bachgen bach Prydeinig yn y wlad ddechrau mis Mawrth.

Mae dyn arall hefyd wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r herwgipiad – dyn sydd hefyd yn cael ei amau o fod â chysylltiad â 22 o lofruddiaethau ym Mhacistan.

Cafodd y ddau eu dal yn ystod cyfres o gyrchau gan yr heddlu yn ninas Jhelum, lle cafodd Sahil Saeed, pump oed, ei herwgipio ar 4 Mawrth.

Cyfaddef eu bod wedi herwgipio

Yn ôl y swyddog heddlu lleol sy’n arwain yr ymchwiliad, mae’r dynion wedi cyfaddef iddyn nhw fod yn rhan o’r herwgipiad.

Dywedodd Muhammad Aslam Tareen fod y dynion wedi penderfynu herwgipio Sahil Saeed, a mynnu pridwerth amdano, yn ystod lladrad yn y tŷ lle’r oedd y bachgen wedi bod yn aros efo’i deulu.

Dywedodd hefyd fod yr heddlu yn chwilio am ddau ddyn arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Sbaen

Mae tri o bobol – dau ddyn o Bacistan, ac un ddynes o Romania – eisoes wedi ymddangos mewn llys yn Sbaen wedi eu cyhuddo o fod a chysylltiad â’r herwgipiad.

Mae dau arall wedi cael eu harestio yn Ffrainc.

Cafodd Sahil Saeed, sy’n dod o Oldham, ei ryddhau ar 16 Mawrth, ac mae adroddiadau fod ei dad, Raja Saeed, wedi talu £110,000 o bridwerth i’r herwgipwyr.