Bydd y Prif Weinidog Gordon Brown yn cwrdd arweinwyr eraill Ewrop heddiw, mae’n debyg am y tro olaf cyn yr etholiad cyffredinol.

Roedd y cyfarfod i fod yn un rheolaidd i drafod cynlluniau hir dymor adferiad economaidd yr Undeb Ewropeaidd, ond bydd yn hytrach yn ceisio sicrhau sefydlogrwydd a hygrededd yr Ewro.

Disgynnodd gwerth yr Ewro yn erbyn y bunt a’r ddoler ddydd Mercher, yn dilyn israddio cyfradd credit Portiwgal.

Yn ogystal, mae trafferthion ariannol Gwlad Groeg yn parhau, a does dim arwydd hyd yn hyn fod gan y gwledydd sy’n defnyddio’r Ewro ateb ynglŷn â sut i wella sefyllfa Athens.

Gwlad Groeg

Mae Comisiynydd Materion Ariannol yr Undeb Ewropeaidd, Ollie Rehn, wedi dweud fod yn rhaid dod i gytundeb ynglŷn â’r termau ar gyfer cynorthwyo Gwlad Groeg yr wythnos yma.

Mae’n rhaid gwneud hyn meddai, er mwyn codi hyder yn Athens, ac er mwyn anfon neges glir fod y sefyllfa dan reolaeth.

Ond mae anghytuno rhwng arweinyddion ynglŷn â sut i ymdrin â’r sefyllfa.

Mae rhai yn Ewrop yn credu dylai defnyddwyr yr Ewro ystyried rhoi benthyciadau i Wlad Groeg.

Ond mae’r Almaen yn anghytuno, gan ddweud taw dim ond ar ôl diystyried popeth arall y dylid gwneud hyn, gan ddadlau hefyd fod angen i’r Gronfa Arian Ryngwladol (IMF) fod yn rhan o unrhyw achubiaeth.