Mae cofeb wedi ei dadorchuddio i Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans, yn llyfrgell ei dre’ enedigol, Y Barri.
Cafodd y gwaith ei gomisiynu gan bwyllgor bychan o dan arweiniad Gwenno Huws, cyn- ddirprwy Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn y dre’.
“Roedd hi’n ddraenen yn fy ystlys nad oedd unrhyw arwydd o gwbwl yn Y Barri i goffáu un o feibion amlyca’r dref ac un o fawrion y genedl,” meddai Gwenno Huws.
“Felly pan ymddeolais i ym mis Gorffennaf y llynedd, fe welais i fy nghyfle i geisio gwneud yn iawn am hyn, ac fe es i ati i sefydlu cronfa i godi arian i gael cofeb deilwng iddo.”
Grwpiau’n codi arian
Codwyd arian i’r gofeb mewn cyngerdd ar ymddeoliad Gwenno Huws ym mis Gorffennaf y llynedd gyda nifer o artistiaid Cymreig yn cymryd rhan ac yn rhoi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim.
Roedd y rhain yn cynnwys Y Tebot Piws, Heather Jones, Sioned Mair, Grug, Elen Rhys a Brigyn a’r troellwr disgiau Aled Wyn Phillips.
Geiriau’r Llywydd
Dadorchuddiwyd y gofeb o waith y cerflunydd John Meirion Morris, yn swyddogol gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
“Fel un o ddinasyddion diweddar Bro Morgannwg, mae’n fraint arbennig i mi ddadorchuddio’r gofeb hon, penddelw o Gwynfor Evans yma yn Y Barri, tref ei eni a’i fagu,” meddai Dafydd Elis-Thomas.
“Creu Cymru unedig ddemocrataidd gyda’i Senedd etholedig ei hun oedd prif orchwyl bywyd Gwynfor, a fo fyddai’r cyntaf i gydnabod cefnogaeth aelodau o bob plaid wleidyddol i gyrraedd y nod hwn.”