Mae dau gwpwl o Brydain oedd allan yn Chile adeg y daeargryn, ymysg y rhai hynny sydd heb eto gysylltu gyda’u teuluoedd i gadarnhau eu bod nhw’n saff.
Roedd Kirsty Duff, 25 oed, o Stonehaven, Swydd Aberdeen a Dave Sandercock, 25 oed o Gaeredin, ar wyliau yn y wlad ers tair wythnos ac yn aros yn Pichilemu.
Fe gyrhaeddodd Andre Lanyon a Laura Hapgood o Guernsey, ddydd Gwener diwethaf.
Taro ardal y syrffwyr
Mae bwthyn ar gyfer syrffwyr yn Pichilemu, The Surfer’s Cottage, wedi rhyddhau manylion y rhai hynny sydd ar goll ar eu gwefan.
Yn ogystal â’r ddau gwpwl, mae Prydeinwraig arall ar y rhestr, sef Tina Cadwallader Lopes a oedd yn Pichilemu gyda’i gŵr o Bortiwgal a’u dau o blant.
Dywedodd y cwmni syrffwyr nad oedd yr ardal wedi dioddef difrod ofnadwy, ond bod y sustem ffôn i lawr, a does yna ddim pŵer.
“Dim marwolaethau” eto
Hyd yma, dyw llysgenhad Prydain yn Chile, Jon Benjamin, ddim wedi derbyn unrhyw adroddiadau o farwolaethau Prydeinig.
Mae disgwyl i staff Oxfam gyrraedd Chile heddiw i helpu gyda’r gwaith dyngarol. Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau fod dros 700 o bobol wedi marw hyd yma.