Mae Radovan Karadzic yn honni mai amddiffyn ei wlad a’i bobol ei hun yr oedd e yn ystod ymosodiadau yn erbyn Mwslemiaid yn y wlad yn y 1990au. Mae’n gwadu honiadau o hil-laddiad.

Mae cyn-arweinydd Serbia wedi dechrau rhoi tystiolaeth o flaen tribiwnlys troseddau rhyfel y Cenhedloedd Unedig yn Yr Hâg.

Mae wedi’i gyhuddo o drefnu’r ymgyrch i gael gwared ar gymunedau Mwslimaidd a Chroat yn nwyrain Bosnia.

Y ffeithiau a’r ffigyrau

Mae Karadzic wedi’i gyhuddo o chwarae rhan yn lladdfa Srebrenica yn 1995, lle cafodd 7,000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd eu lladd.

Dywedodd Karadzic fod ei achos yn un “cyfiawn a sanctaidd”.

Cafodd Radovan Karadzic ei arestio 19 mis yn ôl, ar ôl iddo dreulio 13 blynedd ar ffo.