Mae’r llawfeddyg a helpodd un o gyd-chwaraewyr Aaron Ramsey, i wella o anaf i’w goes, yn credu bydd y Cymro hefyd yn gwella’n llawn.

Mae Khalid Baloch, llawfeddyg yn Ysbyty Selly Oak yn Birmingham, yn credu bod achos y Cymro’n debyg iawn i un Eduardo.

Fe dreuliodd ymosodwr Arsenal a Chroatia flwyddyn allan o’r gêm ar ôl torri ei goes, ac fe allai Ramsey wynebu’r un cyfnod ar yr ystlys, meddai’r meddyg.

Deja vu

“Rwy’n siŵr ei fod yn deja vu i staff Arsenal, ac fe fydd yn dod ag atgofion yn ôl iddyn nhw,” meddai Khalid Baloch.

“Mae meddygon a ffisiotherapyddion Arsenal wedi gweld hyn o’r blaen. Mae yna debygrwydd i anaf Eduadro, ac mae torri coes fel arfer yn golygu tua chwech i naw mis allan”

“Rwy’n disgwyl y bydd Ramsey yn gwella yn yr un ffordd ag y gwnaeth Eduardo, ac rwy’n disgwyl y bydd o’n chwarae eto.”

Diwedd tymor i Ramsey

Mae Arsenal eisoes wedi cyhoeddi y bydd y chwaraewr canol cae yn sicr o golli gweddill y tymor.