Mae adroddiad newydd yn awgrymu rhes o gamau i rwystro plant a phobol ifanc rhag cael eu dylanwadu’n rhywiol.

Mae’n argymell rheolau tynnach tros fideos cerddoriaeth a geiriau caneuon, tros gylchgronau i ferched a llanciau a thros gemau fideo a chyfrifiadur.

Yn ôl yr adroddiad, sydd wedi ei gomisiynu gan y Swyddfa Gartref, mae plant yn cael eu niweidio oherwydd lluniau rhywiol a threisgar ar y teledu ac mae merched yn cael eu troi’n wrthrychau rhywiol.

Fe gafodd y gwaith ymchwil ei wneud o dan arweiniad seicolegydd o’r enw Linda Papadopoulos ac mae’r Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson, eisoes wedi dweud eu bod yn derbyn llawer o’r syniadau.

Yr adroddiad

Mae’r argymhellion yn cynnwys:

• Atal dangos fideos ‘rhywiol’ tan ar ôl naw o’r gloch.

• Cael system raddio oedran ar gylchgronau llanciau, sy’n dangos merched hanner noeth.

• Gosod cloeon rhieni ar beiriannau gemau cyn eu gwerthu.

• Creu system i ddangos a yw lluniau wedi cael eu newid i wneud i ferched edrych yn well.

• Gwahardd canolfannau swyddi’r Llywodraeth rhag hysbysebu swyddi mewn clybiau dawnsio pen-bwrdd a rhannau eraill o’r diwydiant rhyw.

• Creu gwefan lle gall rhieni gwyno.

Niwed

Mae’r adroddiad yn dweud bod pob math o gynnyrch, o’r fideos cerddorol a’r cylchgronau i hysbysebion yn creu delweddau amhosib o ferched, sy’n cael dylanwad gwael ar blant.

Mae llawer o fideos cerddorol, meddai, yn dangos merched yn mewn dillad pryfoclyd ac fel petaen nhw’n barod am ryw.

“Mae fideo gan y Pussycat Dolls, er enghraifft, yn golygu rhywbeth gwahanol iawn i blant 3 oed, 8 oed a 14 oed,” meddai’r adroddiad.

Llun: Enghraifft o’r cylchgronau – gwefan Nuts