Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi mesur yr wythnos nesa’ i helpu pobol sy’n gofalu am gleifion neu bobol fethedig.
Yn ystod yr hydref, fe gafodd y Cynulliad yr hawl i wneud deddfwriaeth yn y maes ac fe fydd y manylion yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth gan Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog tros Wasanaethau Cymdeithasol.
Y disgwyl yw y bydd y mesur yn sicrhau bod gofalwyr yn cael rhagor o wybodaeth am eu hawliau a bod asiantaethau’n cydweithio’n well i’w cefnogi nhw.
Wrth groesawu cael yr hawl deddfu – trwy’r eLCO Gofalwyr – fe ddywedodd Gwenda Thomas y byddai mesur i helpu’r gofalwyr hefyd yn helpu’r rhai sy’n derbyn gofal.
Roedd yr eLCO wedi derbyn cefnogaeth pob un o’r pleidiau yn y Cynulliad ac ers i’r Gorchymyn gael ei gadarnhau, fe fu pwyllgor arbenigol yn ystyried manylion y Mesur.
Fe fydd rhaid i hwnnw gael ei basio gan y Cynulliad cyn troi’n ddeddf.
Yn ôl y ffigurau swyddogol, mae tua 350,000 o bobol yng Nghymru yn gofalu am rywun arall.
Llun: Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog tros Wasanaethau Cymdeithasol