Fe gafodd tîm pêl-droed Wrecsam gêm brin a buddugoliaeth brinnach yn erbyn Wimbledon.

Er hynny, roedd yna ddadlau mawr am y gôl a ddaeth â’r fuddugoliaeth o 1-0 iddyn nhw.

Roedd hi’n ymddangos bod golgeidwad Wimbledon wedi arbed ergyd gan ymosodwr Wrecsam, Gareth Taylor, ond roedd yn cystadlu gyda Lamine Sakho ac fe gariodd y bêl dros y lein.

Roedd chwaraewyr Wimbledon yn gandryll ond un ddamcaniaeth wedyn oedd bod y bêl eisoes wedi mynd i mewn o ergyd Taylor.

Ar ôl hynny, fe setlodd Wrecsam ac fe ddaeth Wes Baynes yn agos unwaith neu ddwywaith.

Fe fydd y fuddugoliaeth yn hwb mawr i Wrecsam gan fod Wimbledon yn bedwerydd yn y gynghrair cyn dechrau’r gêm ac ymhlith y prif sgorwyr

Llun: Gareth Taylor – wedi sgorio … efallai (Llun o wefan y clwb)