Mae bwyd planhigion yn cael ei werthu fel cyffur ar strydoedd Dinbych y Pysgod. Yn ôl Heddlu Dyfed Powys mae’n cael ei werthu dan yr enw Meow Meow neu M cat. Dywedodd y Prif Arolygydd Alan Millichip, “ Dyw’r cyffur honedig yma’n ddim byd mwy na bwyd planhigion a gallai ddim pwysleisio digon pa mor beryglus y mae i’r rhai fydd yn ei gymryd.”
Beth yw Meow Meow?
Mephedrone yw enw’r cyffur, mae’n gwbl gyfreithlon ac yn cael ei werthu ar y rhyngrwyd fel bwyd planhigion. Yn gemegol, mae un moleciwl o wahaniaeth rhyngddo ag egstasi a dyna ddadl y gwerthwyr dros ei werthu’n gyfreithlon. Ond mae’n anghyfreithlon i’w werthu benodol ar gyfer ei gymryd gan bobol.
Mae’r gwerthywr arlein felly yn ei werthu fel ‘bwyd planhigion’, ‘cemegau ymchwil’ neu yn dweud ‘ddim yn addas ar gyfer ei gymryd gan bobl’ ar y tudalennau gwe. Mae rhai o’r gwerthwyr arlein yn gallu gwneud hyd at £25000 yr wythnos trwy werthu cyffuriau yn y modd yma.
Fis Tachwedd llynedd, bu farw merch ysgol 14 oed, Gabrielle Price, wedi iddi gymryd y cyffur mewn parti. Un o effeithiau’r cyffur yw cyflymu’r galon yn sylweddol a bu Gabrielle Price farw o drawiad ar y galon ar ôl cymryd Mephedrone gyda chyffuriau eraill.
Mae tystiolaeth ei fod hefyd yn achosi i bobol niweidio’u hunain yn ddifrifol, yn gwneud i’r trwyn waedu, yn brechu’r croen ac yn achosi hunllefau.