Gêm bêl-droed Caerdydd yn erbyn Blackpool yw un o’r ychydig gemau sy’n cael eu chwarae ar y lefel ucha’ yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Dim ond tua dwsin o gemau sy’n cael eu chwarae ar draws y tair gwlad, gyda dim ond dwy ar ôl yn Uwch Gynghrair Lloegr. Fe gyhoeddodd Wigan y bore yma bod eu gêm yn erbyn Aston Villa wedi ei gohirio oherwydd cyflwr y cae.

Mae’r rhan fwya’ o’r gemau yng Nghymru wedi cael eu gohirio hefyd. Mae cynghreiriau McWhirter, Cymru Alliance a Gwynedd ymhlith y rhai sydd wedi cyhoeddi heddiw na fydd neb yn chwarae.

Roedd hi eisoes yn hysbys na fyddai yna’r un gêm yn Uwch Gynghrair Cymru.

Clirio’r palmentydd

Yr unig beryg i’r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd oedd cyflwr ffyrdd a phalmentydd y tu allan i’r cae sydd â system wresogi tanddaear.

Fe fu staff a chefnogwyr wrthi gyda rhofiau’n clirio’r eira a’r rhew y tu allan er mwyn gwneud yn siŵr bod y gêm yn digwydd am 3.00 y prynhawn,

Dyna’r broblem mewn llawer o gaeau hefyd wrth i’r gamp wynebu ei Sadwrn gwaetha’ ers diwrnod cynta’ 1979. Byddai’n rhaid mynd yn ôl i aeaf caled 1963 i ddod o hyd i ystadegau gwaeth.

Hanes dau Gymro

Ond fe allai’r ddwy gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr gael effaith fawr ar y teitl a gobeithion dau Gymro.

Mae Man Utd a Ryan Giggs yn gobeithio mynd i’r brig yn Birmingham ac Arsenal ac Aaron Ramsey’n gobeithio closio at y brig gartref yn erbyn Everton.

Llun: Gwefan y clwb yn dangos bod y gem ymlaen