Fe ddylai system gyfrifiaduron newydd ganiatáu i staff mewn ysbytai gasglu gwybodaeth am gleifion yn gyflym a diogel, meddai’r Llywodraeth.

Fe honnodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, y byddai’r Porth Clinigol Cymreig yn chwyldroi technoleg gwybodaeth o fewn y Gwasanaeth Iechyd.

Mae’n dilyn cyhoeddiad yn gynharach yr wythnos hon y byddai gwefan newydd yn rhoi cyfle i gleifion drefnu gweld doctoriaid a chael moddion cyson ar-lein.

Fe fydd gweithwyr mewn nifer o ysbytai peilot yn profi’r cynllun gwerth £2.5 miliwn trwy fynd ar y We a gofyn am weld canlyniadau profion yn electronig.

Y bwriad yw tynnu gwybodaeth at ei gilydd o nifer o systemau gwahanol oddi mewn i ysbytai er mwyn rhwyddhau gwaith nyrsys, doctoriaid a fferyllwyr.

Gwell gwybodaeth, meddai’r Gweinidog

“Ar hyn o bryd mae staff iechyd yn gorfod defnyddio nifer o systemau gwybodaeth gwahanol trwy’r dydd er mwyn cael gwybodaeth angenrheidiol,” meddai Edwina Hart.

“Mae hynny’n gallu cymryd llawer o amser ac efallai na fyddan nhw’n gallu cael gafael ar wybodaeth er mwyn cynnig y gwasanaeth gorau.

“Fe fydd y porth yn rhoi mwy o wybodaeth i weithwyr proffesiynol y gwasanaeth, gan gefnogi eu penderfyniadau a lleihau’r peryg o driniaeth anaddas neu gamgymeriadau.”